Dydd Sadwrn 25 Ebrill a dydd Sul 26 Ebrill
Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Rydym yn cynnig mynediad am ddim i famau dros y penwythnos cyfan pan fyddant yng nghwmni eu plentyn/plant.
Does dim gwahaniaeth beth yw oedran y plentyn, os ydych yn oedolyn neu beidio, dewch â’ch mam draw i fwynhau mynediad am ddim i Waith Tun a Rhaeadr Aberdulais.
Gwnewch gerdyn Sul y Mamau, mwynhewch bicnic wrth y rhaeadr neu gwyliwch y bywyd gwyllt ar yr afon. Wedi’r cyfan, treulio amser gyda’ch gilydd sy’n bwysig.
Prisiau mynediad arferol yn berthnasol. Mynediad am ddim i famau pan fyddant yng nghwmni eu plentyn. Mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.